MAE archeolegwyr wedi dod o hyd i arwyddion newydd o weithgaredd dynol cynhanesyddol ym Mryniau Clwyd ac mae arddangosfa newydd ar agor i’r cyhoedd sy’n dangos rhai o’r prosesau archeolegol a ddefnyddir i ddatgelu olion ein hen hen gyndeidiau.

Fel olynydd y prosiect Grug a Bryngaerau, ers peth amser bellach mae Grwp Archeoleg Bryniau Clwyd (CRAG) wedi bod yn archwilio ac yn cloddio yn ardal Moel Arthur.

Yn yr amser hwnnw, cafwyd sawl cipolwg cyffrous ar weithgareddau dynol, rhai o bosibl yn ganoloesol ond eraill yn ôl pob tebyg yn dyddio'n ôl filoedd o flynyddoedd, o bosibl cyn belled yn ôl a'r cyfnod Mesolithig.

Yn ogystal â dangos yr hyn a ddarganfuwyd dros flynyddoedd o gloddio, mae'r arddangosfa'n egluro rhai o'r dulliau y mae archeolegwyr yn eu defnyddio i archwilio, casglu tystiolaeth a chofnodi'r canlyniadau.

Mae’r arddangosfa ar agor yn ddyddiol rhwng 10am a 4pm tan dydd Sul, Ionawr 28 yn Y Galeri, Parc Gwledig Loggerheads, ger yr Wyddgrug.

Bydd aelod o dim CRAG wrth law rhwng 11am a 3pm i ateb cwestiynau am y cloddfeydd a'r prosesau archeolegol cysylltiedig.

Rhwng yr amseroedd hyn bydd eitemau a ddarganfuwyd mewn cloddfeydd diweddar hefyd yn cael eu harddangos.

Noddir yr arddangosfa gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’r Gronfa Datblygiad Cynaliadwy ar gyfer Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Yn ddiweddar, enillodd CRAG Wobr Marsh am Archeoleg Gymunedol – gwobr genedlaethol a noddir gan Gyngor Archeoleg Prydain ac Ymddiriedolaeth Gristnogol Marsh.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am CRAG, cysylltwch ag info@cragnorthwales.co.uk