BETH yw’r ffordd orau o gyflwyno trafodaeth am newid hinsawdd i’r theatr? Dyna’r her y mae cwmni theatr Cwmni Pendraw wedi’i gosod iddo’i hun.

Mae’r cwmni, sydd yn arbenigo mewn cyflwyno hanes a gwyddoniaeth i’r theatr, yn teithio o amgylch Cymru gyda 2071, prosiect theatr amgylcheddol aml-gyfrwng, a fydd yn teithio ym mis Ionawr a Chwefror.

Mae’r cwmni yn awyddus i berfformio o flaen myfyrwyr ysgolion a cholegau yn ystod y dydd.

Cysylltwch â Casi Wyn drwy e-bostio casi.pendraw@gmail.com am ragor o wybodaeth am hyn.

Mae’r cwmni wedi cyfieithu ac addasu drama sy’n seiliedig ar eiriau gwyddonydd newid hinsawdd sydd ymysg arbenigwyr blaenllaw'r byd yn y maes.

Mae’n adolygu ei fywyd a’i yrfa ac yn edrych ar sut fyd y bydd ei orwyres yn ei etifeddu yn 2071.

Mae’r cynhyrchiad wedi’i ddisgrifio fel sioe sydd yn ‘torri tir newydd yn y theatr Gymraeg’.

Yr actor adnabyddus Wyn Bowen Harries sydd yn cyfarwyddo ac yn chwarae’r brif ran yn 2071, gan ddiweddaru’r ddrama wreiddiol gan yr Athro Chris Rapley a Duncan Macmillan, a’i thrwytho gyda delweddau a cherddoriaeth a chaneuon newydd wedi’u cyfansoddi gan Angharad Jenkins a Gwilym Bowen Rhys.

Mae’r sioe hefyd yn torri trwy ‘bedwaredd wal’ y llwyfan i gynnwys y gynulleidfa yn y perfformiad.

Fel yr esbonia Wyn Bowen Harries: “Yn 2071, mae’r Athro Chris Rapley yn dweud wrthym mai fel ‘region unknown to man’ y disgrifiwyd yr Antarctig yn yr atlas yr oedd ganddo pan oedd yn blentyn, ond erbyn hyn mae gennym doreth o wybodaeth am ein byd, yn ei holl gymhlethdod.

"Er enghraifft, cafwyd cyfnod hir o dymheredd sefydlog, gweddol lonydd o ran newidiadau hinsawdd yn ystod y cyfnod a welodd datblygiad dynoliaeth a ddechreuodd 12,000 o flynyddoedd yn ôl.

"Ni newidiodd lefel y môr mwy na 0.2mm y flwyddyn. Ond yn y ganrif ddiwethaf, cododd 1.8mm bob blwyddyn ac erbyn heddiw mae wedi codi ddwywaith cymaint, sef 3.3mm y flwyddyn.

"Er nad yw hyn yn swnio’n llawer, mae hyn yn bwysig ac yn arwyddocaol.

"Bellach, mae lefel y môr wedi codi bron 20cm. Mae hyn wir yn dangos bod cydbwysedd, balans deinamig y system hinsawdd wedi’i aflonyddu.

"Er mai pwnc dwys sydd yma, mae ein storïwr yn gorffen ar nodyn cadarnhaol – bod gennym gyfleoedd i ymateb i’r her sy’n ein hwynebu, ac rwy’n gobeithio y bydd ein cynulleidfa yn gadael y theatr yn meddwl am newidiadau y gallan nhw eu gwneud i gyfrannu at ddyfodol ein planed anhygoel.”

Chwefror 2: Y Ganolfan, Llanrwst (1.30pm - ysgolion - a 7.30pm). Tocynnau o Menter Iaith Conwy ar 01492 642357.

Chwefror 5: Theatr Clwyd (11am - ysgolion - a 7.45pm). Tocynnau: 0845 3303565 neu theatrclwyd.com.

Mwy o wybodaeth o cwmnipendraw.com