MAE arddangosfa newydd sydd ar fin agor yn seiliedig ar y sialens o ddweud hanes Gogledd Ddwyrain Cymru mewn 100 gwrthrych.

Yr arddangosfa hon, yn Amgueddfa Wrecsam, yw penllanw prosiect dwy flynedd gan Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru, a sefydlwyd i ddathlu, gwarchod a hyrwyddo treftadaeth gyfoethog ffindiroedd Gogledd Ddwyrain Cymru.

Daeth y fforwm â grwpiau treftadaeth cymunedol o’r ardal gyfan at ei gilydd i awgrymu gwrthrychau oedd yn cynrychioli agwedd ar ein hanes lleol.

Wrth i’r awgrymiadau lifo i mewn, fe ddechreuodd y gwaith o ganfod yr eitemau a sicrhau eu bod ar gael i’w gweld yn yr arddangosfa unigryw hon.

Mae’r 100 terfynol yn cynrychioli miloedd o flynyddoedd o hanes o’r olion cyntaf o fywyd dynol hyd at dechnoleg yr unfed ganrif ar hugain.

Mae’r arddangosfa yn rhannu’n chwe adran: Trigolion, Cynnar, Cestyll a Gwrthdaro, Dyfeisiadau Diwydiannol, Teithio a Thrafnidiaeth, Crefydd a Diwylliant, a Bywyd Bob Dydd.

Mae casgliad eclectig o bethau yn dangos amrediad o asgwrn gên ceffyl cynhanesyddol o Ogof y Gop, pennau saethau o Gastell Dinbych, cwrwgl Afon Dyfrdwy, het ysmygu’r bardd John ‘Ceiriog’ Hughes a ‘manilla’ copr o Ddyffryn Maesglas, i asen awyren Airbus o’r oes hon.

Cyfrannodd myfyrwyr o adran diwydiannau creadigol Prifysgol Glyndwr drwy greu darnau sain sy’n gysylltiedig â rhai o’r gwrthrychau.

Dywedodd Dr Shaun Evans, cadeirydd y fforwm: “Dewiswyd y can gwrthrych a’u rhoi mewn grwpiau i ddarlunio themâu sy’n gwau eu ffordd drwy hanes y fro.

"Mae’r canlyniad yn gynrychiolaeth hynod amryfal o orffennol yr ardal, yn ymestyn dros ganrifoedd ac yn cynnwys eitemau o bob rhan o Ogledd Ddwyrain Cymru.

"Gwahoddwn drigolion yr ardal i ymweld â’r arddangosfa a thrin yr arddangosfa fel mynedfa i archwilio ymhellach a darganfod ein trefi a’n pentrefi, ein tirwedd, safleoedd treftadaeth, amgueddfeydd ac archifau.”

Ychwanegodd “Diolch yn fawr i’r holl grwpiau, mudiadau ac unigolion sydd wedi caniatáu i ni gynnwys eitemau o’u casgliadau yn yr arddangosfa – heb eu cefnogaeth ni fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i Gronfa Treftadaeth y Loteri am ariannu’r prosiect.”

Mae’r arddangosfa, rhad ac am ddim, ymlaen o Ebrill 21 tan Mehefin 30.

Cyhoeddir llyfr i gyd-fynd â’r arddangosfa a fydd ar gael o Amgueddfa Wrecsam a siopau lleol eraill, gan gynnwys Y Siop Lyfrau yn yr Wyddgrug a siopau llyfrau Rhuthun a Dinbych.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 297460 neu ewch i www.newalesheritageforum.org.uk