CYFLWYNIR darlith Gymraeg gan yr Athro Dyfrig Hughes ar "Effeithiolrwydd a Diogelwch Meddyginiaethau", yn yr Amgueddfa Gwefr heb Wifrau, Pwll y Grawys, Dinbych nos Wener yma, Mehefin 22 am 7yh.

Mae'n rhan o raglen Gwyl Ganol Haf Dinbych.

Lluniaeth ysgafn i ddilyn

Trwbz

Gig yn nhafarn yr Heliwr, Bryntrillyn, nos Sadwrn yma, Mehefin 23, er bydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

Bwyd o 6.30 ymlaen, a’r adloniant i gychwyn tua 7.30yh.

Talwrn y Plu!

Mae noson o gerddi, limrigau a chwpledi ar y gweill yn Nhafarn y Plu, fel rhan o raglen gyffrous Gwyl Rhuthun.

Dan ofal y Meuryn, Huw Dylan, beth am ymuno yn yr hwyl a mwynhau ychydig o odli dros beint?

Beth am geisio’r limrig ‘Mae sibrydion ar lawr y dyffryn…’ neu ‘Ar lawr y dyffryn mae sibrydion...’ neu’r cwpled caeth neu rydd: ‘Llanast neu Ffars’?

Ymunwch yn yr hwyl Nos Fercher nesaf, y 27ain o Fehefin o 8yh.