Ceri yn cipio’r goron

Published date: 05 August 2009 | Published by: National Eisteddfod reporter


 

CERI Wyn Jones sydd wedi ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau 2009.
 

Cyflwynwyd y Goron iddo mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn, brynhawn Llun, Awst 3.
 

Gyda 44 o feirdd wedi cystadlu yn y gystadleuaeth eleni, Moelwyn ddaeth i’r brig am ei ddilyniant o gerddi heb fod dros 200 llinell ar y testun ‘Yn y Gwaed’.
 

Meddai M Wynn Thomas ar ran ei gyd feirniaid, John Gruffydd Jones a Dafydd John Pritchard: “Mae Moelwyn yn hoelio ein sylw yn syth o’r dechrau wrth fynegi’r profiad o ddweud adnod yn blentyn.
 

“Mae treiddgarwch y mynegiant yn dibynnu’n llwyr ar y gynghanedd ac ar fesur y cywydd.
 

“Diffyg ffydd yw thema’r gyfres ar ei hyd wrth i’r bardd geisio dirnad y bwlch rhyngddo ef a’i dad a’i daid.”
 

Un o Aberteifi yw Ceri Wyn Jones, ond fe’i ganwyd yn Swydd Hertford a’i fagu ym Mhen-y-bryn yng ngogledd Sir Benfro.
 

Aeth i’r brifysgol yn Aberystwyth lle graddiodd yn y Saesneg, cyn dilyn cwrs ôl-radd dysgu a mynd yn athro Saesneg, ac wedi hynny yn bennaeth yr adran Saesneg, yn Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul.
 

Ers 2002, serch hynny, mae’n olygydd llyfrau gyda Gwasg Gomer.
 

Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Meirion yn y Bala ym 1997 am ei awdl ‘Gwaddol’, ac mae’n llais a wyneb cyfarwydd ym myd y talwrn a’r ymryson.
 

Ef oedd Bardd Plant Cymru yn 2003-04, ac yn sgîl gweithgarwch y flwyddyn honno, cyhoeddwyd ei gyfrol blant gyntaf, sef Dwli o Ddifri. Cyrhaeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi i oedolion, sef Dauwynebog, y rhestr fer o dri ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2008.
 

Eleni, rhoddwyd y Goron a’r wobr o £750 gan Ymddiriedolaeth William Park Jones, ac fe’i cynlluniwyd gan y gemydd Sarah Anderson o Fachwen ger Caernarfon.

You must be a registered user to leave a comment. Register or login here.

Featured Businesses

View all adverts