MAE'R Prif Weinidog Carwyn Jones AC wedi cyhoeddi hwb ariannol sylweddol i helpu busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i gynllunio a pharatoi ar gyfer Brexit.

Bydd Cronfa Bontio'r UE, a fydd yn cael cymorth cychwynnol o £50m, yn cael ei datblygu ar y cyd â busnesau, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau allweddol eraill yng Nghymru i ddarparu cymorth pwrpasol wrth i'r DU baratoi i ymadael â'r UE.

Bydd y gronfa yn darparu cyfuniad o gymorth ariannol a benthyciadau ac yn cefnogi’r gwaith o ddarparu cyngor i fusnesau.

Bydd hyn yn cynnwys cyngor technegol a masnachol, cyngor ar allforio a chyngor sy’n benodol ar gyfer sectorau.

Yn ogystal â hyn, bydd y Gronfa yn helpu cyflogwyr i gadw a pharhau i ddenu dinasyddion yr UE sy’n gwneud cyfraniad hanfodol i Gymru.

Bydd y gronfa’n pwysleisio pa mor groesawgar yw Cymru i bobl o wledydd eraill sydd wedi ymgartrefu yma.

Bydd y gronfa hefyd yn darparu cymorth datblygu pwrpasol i ddiwydiant amaethyddol Cymru wrth iddo baratoi ar gyfer y cyfnod pontio ac ar gyfer y dyfodol ar ôl i’r DU ymadael â’r UE.

Dywedodd Carwyn Jones: "Mae Brexit yn codi heriau a chyfleoedd gwahanol ar gyfer pob agwedd ar fywyd yng Nghymru – o'n busnesau lleol a'n prif gyflogwyr, i'n ffermwyr, ein hysbytai a’n prifysgolion.

"Bydd Cronfa Bontio'r Undeb Ewropeaidd yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau sydd o'n blaenau.

"Mae'r gronfa wedi'i datblygu mewn partneriaeth â'n busnesau a'n gwasanaethau cyhoeddus a bydd yn darparu cymorth arloesol a phenodol a fydd yn eu helpu i oroesi, ac yn wir i ffynnu y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

“Rwy’n gwneud cyhoeddiad cynnar am y gronfa hon er mwyn inni gael y cyfle gorau posibl i’w chynllunio ar y cyd â’r sefydliadau a’r busnesau hynny y bwriedir iddi eu helpu.

“Fy mlaenoriaeth yw sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa orau bosibl i ymdopi â’r heriau a'r cyfleoedd a ddaw.

"Fel Llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu atebion sy’n gweithio yng Nghymru, a byddwn ni’n parhau i gydweithio â phartneriaid i fanteisio ar bob cyfle.”

Mae Cronfa Bontio'r UE, sy'n werth £50m, yn cael ei chefnogi gan ernes gychwynnol o £10m yng nghyllideb derfynol 2018-19.

Mae'n ychwanegol at y £5m sydd wedi'i ddyrannu er mwyn paratoi ar gyfer Brexit yn ystod 2018-19 a 2019-20 fel rhan o’r cytundeb dwy flynedd â Phlaid Cymru ar y Gyllideb.

Bydd y gronfa'n darparu cymorth yn y meysydd datganoledig.