MEWN partneriaeth ag enwau mawr megis Deezer, HMV, BBC, Grazing Shed, Spillers a llu o gerddorion talentog Cymraeg, mae Dydd Miwsig Cymru wedi bod yn llwyddiant gyda gigs, sioeau radio a gweithgareddau mewn ysgolion ledled Cymru yn 2016 a 2017.

Yn ymuno yn yr hwyl o rannu cynnwys Cymraeg ar y dydd roedd pobl fel Tim Burgess o’r Charlatans, Cerys Matthews, Fred Perry UK, Huw Stephens, Bethan Elfyn, Adam Walton, Heavenly Recordings a Gwyl y Dyn Gwyrdd. Gyda miloedd mwy yn trydar, fe gyrhaeddodd yr hashnod dros 3 miliwn o bobl.

Gall unrhyw un gymryd rhan yn y dathlu, boed yn unigolion neu’n grwpiau neu'n sefydliadau, ysgolion, siopau neu gaffis.

Os oes gennych chi syniad, os hoffech chi fod yn rhan o’r dydd neu os hoffech chi ddysgu mwy, cysylltwch â Menter Iaith Sir Ddinbych ar 01745 812822 neu ewch i @Cymraeg ar Twitter neu ‘Cymraeg’ ar Facebook.