MAE dyluniadau manwl ar gyfer yr ysgol newydd sbon yng Nghlocaenog yn cael eu llunio ar hyn o bryd.

Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych eisoes wedi cymeradwyo codi adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn, ysgol Gymraeg sydd ar hyn o bryd yn gweithredu ar ddau safle yng Nghlocaenog a Chyffylliog.

Mae staff a chynrychiolwyr yr ysgol wedi bod yn gweithio gyda’r tîm prosiect i ddatblygu’r dyluniadau cychwynnol ymhellach, gan ganolbwyntio ar ddyluniadau mewnol yr adeilad.

Bydd y dyluniadau terfynol yn cael eu cymeradwyo yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda’r gwaith adeiladu yn dechrau yn y gwanwyn.

Wynne Construction yw’r prif gontractwr. Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Meddai'r Cyng Huw Hilditch-Roberts, aelod cabinet arweiniol addysg, plant a phobl ifanc a’r Gymraeg: “Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol ar gyfer adeilad newydd Ysgol Carreg Emlyn ac rwyf yn falch o glywed bod y gwaith cynllunio’n mynd rhagddo’n dda."

Rhagwelir y bydd yr adeilad newydd wedi ei gwblhau erbyn gwanwyn 2019.