CYNHELIR bore brecwast fferm ddydd Sadwrn yma, Ionawr 27, yn y Ganolfan Gymuned Llansannan (8yb-12yp).

Ewch draw am frecwast fferm traddiodiadol llawn - Oedolion £10, plant ysgolion uwchradd a phensiynwyr £5, plant ysgolion cynradd £3.

Bydd elw’r bore yn mynd at elusennau’r llywydd, yr Alzheimer's Trust Cymru a FCN (Farming Community Network).

Trefnir y Brecwast gan aelodau lleol Undeb Amaethwyr Cymru.