YN noson olaf y barnu stoc am eleni, cafwyd croeso cynnes iawn yn Lodge, Dinbych gan y teulu i gyd a gwartheg werth eu gweld i’r aelodau feirniadu.

Y beirniaid oedd Huw Rogers, Arthur Owen, Jonathan Hulme ac Edward Morgan. Roedd yn dro olaf i Siwan Hulme ac Erica Swan gystadlu. Mae'r ddwy wedi cystadlu llawer dros y blynyddoedd yn y sir ac yn genedlaethol.

Diolch hefyd i Mallt a Carol am eu cymorth gyda the, coffi, cacennau a brechdanau i gadw’r aelodau fynd.

Canlyniadau:

Dan 16: 1, Gethin Williams (Nantglyn); 2, Meilir Lloyd (Nantglyn); 3, Cerys Harris (Cilcain).

Dan 18: 1, Sara Williams (Cilcain); 2, Idris Williams (Betws yn Rhos); 3=, Rhidian Edwards (Uwchaled) a Nico Clwyd (Llannefydd).

Dan 21: 1, Dave Stoner (Cilcain); 2, Iwan Parry (Chwitffordd); 3, Sara Kynaston (Uwchaled).

Dan 26: 1, Dafydd Williams (Cilcain); 2, Harri Kynaston (Uwchaled); 3, Siwan Hulme (Chwitffordd).

Tîm: 1, Cilcain; 2, Chwitffordd; 3, Llannefydd.