MAE cais wedi’i wneud bod trigolion yn cymryd rhan mewn ymgynghoriad ar sut i wella gwasanaethau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion gydag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru.

Mae cynghorau ar draws y gogledd yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu cynllun rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau anableddau dysgu.

Bydd y cynllun yn edrych ar sut y gall y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol weithio’n well gyda’i gilydd i ganolbwyntio ar y meysydd y mae pobl yn dweud sy’n bwysig iddyn nhw; cael rhywbeth i’w wneud; bod a lle da i fyw; cael y gefnogaeth iawn wrth fynd drwy newidiadau yn eu bywydau; cyfeillion a pherthnasoedd; bod yn iach, a bod yn ddiogel.

Mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu ar y cyd â phobl gydag anawsterau dysgu, rhieni, gofalwyr a sefydliadau sy’n darparu gofal a chefnogaeth.

Meddai Neil Ayling, arweinydd y prosiect yng Ngogledd Cymru a phrif swyddog gwasanaethau cymdeithasol yn Sir y Fflint: “Rydym am i bawb sydd ag anableddau dysgu gael gwell ansawdd bywyd gan fyw yn lleol lle maent yn teimlo’n ddiogel ac yn iach, lle maent yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys yn eu cymunedau ac yn gallu cael gafael ar gymorth personol effeithiol sy’n hyrwyddo annibyniaeth, dewis a rheolaeth.

"Rwy’n annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a’n helpu i wireddu’r weledigaeth gyda'n gilydd."

Mae mwy am yr ymgynghoriad ar gael yn: www.cydweithredfagogleddcymru.cymru/ymgynghoriad-strategaeth-anabledd-dysgu/

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan Gorffennaf 20.