WRTH deithio o gwmpas yr ardal ar hyn o bryd, mae’n siwr y byddwch wedi sylwi ar rai o’r arwyddion ar ochr y ffyrdd yn hyrwyddo Rali’r Ffermwyr Ifanc a gynhelir eleni yn Llannefydd ddydd Sadwrn yma, Mehefin 16.

Cynhelir y gystadleuaeth arwyddion yma’n flynyddol a thros y penwythnos diwethaf, roedd y beirniaid Erina Roberts ac Ioan Morris wedi eu plesio yn arw hefo safon arwyddion y rali wrth iddynt eu beirniadu.

Gosodwyd clwb Maelor yn gyntaf, Rhuthun yn ail a Llannefydd yn drydydd.

Roedd 11 o arwyddion wedi cael eu gosod drwy'r ogledd ddwyrain, a’r thema eleni oedd "Fyny Fry".

Dywedodd Eleri Roberts, trefnydd y sir: “Mae dydd Sadwrn am fod yn ddiwrnod gwych hefo cystadlaethau gosod blodau, coginio, crefft, tynnu rhaff, canu, dawnsio a phopeth llawn hwyl mae’r ffermwyr ifanc yn ymwneud a fo.

"Caiff y diwrnod ei gloi hefo dawns i ddathlu yn fferm Tan Llan”.

SYLWER: Dawns – i rai dros 18 yn unig. Bydd aelodau CFfI Clwyd dros 16 oed hefyd yn cael y cyfle i brynu tocynnau i’r ddawns yn ystod y rali. Dim mynediad i’r ddawns heb docyn/band.