Y BAND gwerin cyffrous Calan fydd yn ymddangos yn y cyngerdd Dathliad Rhyngwladol yn Eisteddfod Llangollen eleni.

Bydd eu detholiad o ganeuon yn sicr o gael eich traed i symud gyda'u dehongliad rhyfeddol o gerddoriaeth werin draddodiadol Gymreig.

Yn ystod y cyngerdd, bydd perfformiadau hefyd gan gystadleuwyr rhyngwladol yn eu gwisgoedd traddodiadol, a fydd yn uno mewn môr o liwiau bywiog a seiniau eclectig, wrth iddynt symud trwy'r gynulleidfa yn cludo eu baneri mawr yng Ngorymdaith y Cenhedloedd.

Hefyd, bydd plant o Ysgol Dinas Brân yn cyflwyno neges ewyllys da i'r byd a'r gynulleidfa gan adrodd Neges Heddwch 2018, gyda neges ysbrydoledig hefyd gan Lywydd yr Eisteddfod, Terry Waite.

Yn dilyn yr orymdaith, sy'n archwilio gwerthoedd sylfaenol unigryw yr Eisteddfod Ryngwladol o rannu cerddoriaeth, dawns, heddwch a chyfeillgarwch, bydd Calan yn camu i ganol y llwyfan gyda'u llu o offerynnau.

Mae'r band yn chwarae acordion, telyn, gitâr, ffidlau a phibau Cymreig, gan greu sain ffres a threfniadau bywiog a gwreiddiol.

Bydd y rhaglen yn cynnwys alawon hyfryd gydag offeryniaeth wych a rhythmau heintus sy'n mynegi llawenydd ac egni cerddoriaeth werin.

Cynhelir Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen bob blwyddyn yn ystod wythnos gyntaf mis Gorffennaf.

Mae'n cynnig y gorau mewn cerddoriaeth a dawnsio gwerin mewn cyfuniad unigryw o gystadlu, perfformio a heddwch a chyfeillgarwch rhyngwladol.

Eleni, mae’r sêr fydd yn ymddangos yng nghyngherddau’r wyl yn cynnwys artistiaid byd enwog fel Van Morrison ac Alfie Boe.

Hefyd yn cymryd rhan yn Llanfest, sy’n cloi’r wyl ddydd Sul, yr 8fed o Orffennaf, fydd y band roc chwedlonol Kaiser Chiefs, eiconau pop y nawdegau Toploader a’r band roc pop The Hoosiers.

CYFLE I ENNILL TOCYNNAU I WELD CALAN

Mae Menter Iaith Sir Ddinbych, ar y cyd gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, yn cynnig pâr o docynnau i bump o ddarllenwyr lwcus.

I fanteisio ar y cyfle i ennill pâr o docynnau e-bostiwch eich enw, cyfeiriad, côd post a rhif ffôn, gyda ‘Calan’ yn y llinell testun, erbyn hanner dydd ar Mehefin 22 at eisteddfod@llangollen.net

Bydd enillwyr yn cael eu hysbysu erbyn dydd Llun, Mehefin 25. Nid yw'r gystadleuaeth yn agored i weithwyr Menter Iaith Sir Ddinbych nag Eisteddfod Llangollen.

Bydd Calan yn perfformio yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar nos Iau, y 5ed o Orffennaf o 7.30yh ymlaen.

Mae tocynnau, £19-£27, ar gael o'r swyddfa docynnau trwy ffonio 01978 862001 neu ar-lein yn www.llangollen.net