MAE pennod cyffrous yn hanes Llyfrgell a Siop Un Alwad Dinbych wrth iddo agor ei ddrysau i'r cyhoedd yn dilyn gwaith adnewyddu mawr yn gynharach yr wythnos hon.

Mae rhannau o’r adeilad hanesyddol - a adeiladwyd gan Robert Dudley ym 1572 - wedi'u hadnewyddu i gynnwys cyfrifiadur hunan-wasanaeth i gyrchu gwasanaeth ar-lein y cyngor a phartneriaid a chiosg dosbarthu hunan-wasanaeth newydd.

Mae’r ardal hyblyg i blant a’r ystafell gyfarfod wedi’u hadnewyddu.

Gyda’r WiFi am ddim, pwynt gwybodaeth newydd i dwristiaid, arddangosfa o eitemau a gwybodaeth am hanes lleol, ardaloedd ymgynghori hyblyg ar gyfer defnydd cymunedol a man ar gyfer astudio anffurfiol, mae’r llyfrgell yn adnodd wych ar gyfer y gymuned.

Dywedodd y Cyng Richard Mainon, aelod arweiniol y cabinet dros ddatblygu seilwaith cymunedol: "Mae hwn yn achlysur pwysig iawn i Lyfrgell Dinbych ac rwy'n falch iawn ein bod wedi creu cyfleuster mor fodern i drigolion Dinbych a thu hwnt wrth ddefnyddio'r llyfrgell a'r holl wasanaethau cymunedol ychwanegol.

"Mae llyfrgelloedd yn rhan hanfodol o fywyd cymunedol yn Sir Ddinbych.

"Maent yno i ddarparu cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau, cyfleusterau i'w defnyddio gan y gymuned a man lle mae pobl yn mynd i ddysgu sgiliau newydd a bod yn gymdeithasol."

Mae'r gwaith adnewyddu wedi'i ariannu gan y cyngor a Llywodraeth Cymru (Adran Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd).