MAE Ysgol Rhewl, ger Rhuthun, yn cau ddiwedd tymor yr haf a rhoddodd y pennaeth Ellen Williams-Lumb wahoddiad i gyn-ddisgyblion ddod â lluniau a dogfennaeth o’u hamser fel disgyblion draw yno’n ddiweddar.

Hyd yma, mae mwy na 25 o gyn-ddisgyblion a 10 cyn-aelod staff wedi dod â chofebion sydd wedi cael eu copïo a byddant yn cael eu cadw’n ddigidol i’w gweld gan genedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd Mrs Williams-Lumb: “Mae’n fraint i mi fod yn rhan o’r prosiect hwn ac i allu gwneud hyn.

"Mae pawb yn haeddu’r cyfle i weld yr ysgol am y tro olaf.

"Mae wedi bod yn ddiddorol i’n disgyblion fynd trwy’r broses hon ac mae wedi bod yn braf cael pobl yn dod i mewn a rhannu eu straeon.

"Mae rhai manylion am Ysgol Rhewl ar-lein ond mae angen i ni rannu unrhyw ddogfennau a ffotograffau ar-lein fel bod cenedlaethau’r dyfodol gael mynediad at gofnod cywir o fywyd yr ysgol mewn geiriau a lluniau."

Agorodd yr ysgol ym 1918 ac roedd y cyn-ddisgybl hynaf i ymweld yn 95 mlwydd oed.

Dywedodd Brenda Roberts, o Rhewl, ac oedd yn ddisgybl yn yr ysgol o 1956 tan 1963: “Mae gen i atgofion melys iawn o fod yn yr ysgol.

"Rwy’n cofio chwarae pêl yn yr iard, ei thaflu dros y to a mynd i drafferth am wneud hynny.

"Mae’n daith llawn atgofion dod yn ôl yma.

"Mae’n braf gallu dod yn ôl a gweld yr hen luniau ac adnabod pobl ynddyn nhw.

"Hoffwn ddiolch i’r ysgol am drefnu hyn.”

Mae cyn-ddisgyblion hefyd wedi bod yn sgwrsio â'r myfyrwyr presennol ynghylch eu hamser yn Ysgol Rhewl.

Dywedodd Elliot Jones, 11 oed: “Mae wedi bod yn ddiddorol gweld sut yr oedd pethau yn yr ysgol ers talwm.

"Roeddwn i wedi synnu faint o ddisgyblion oedd yn arfer bod yn yr ysgol.”

Dywedodd Emily Mckay, sydd hefyd yn 11 oed: “Mae wedi bod yn ddiddorol cyfarfod y cyn-ddisgyblion.

"Rydym wedi bod yn holi llawer ynghylch sut oedd hi pan oedden nhw'n dod yma.

"Rwy'n meddwl bod yr ysgol yn wahanol, dwi'n meddwl ei bod wedi newid llawer."

Bydd Ysgol Rhewl yn cynnal digwyddiad agored ddydd Gwener, Gorffennaf 13 rhwng 2 a 7pm, lle bydd ystod o wybodaeth ac adnoddau i'w rhannu gyda'r cyhoedd, ynghyd â lluniaeth.