BYDD trafnidiaeth gyhoeddus ar gael mewn rhannau o dde Sir Ddinbych diolch i gynllun peilot a gaiff ei redeg gan Gyngor Sir Ddinbych.

Bydd y peilot, o’r enw ‘Fflecsi,’ yn gweithredu ochr yn ochr â gwasanaeth bysiau lleol presennol er mwyn rhoi gwasanaeth pum niwrnod yr wythnos i drigolion gwledig yn y pentrefi peilot.

Bydd y gwasanaeth yn dechrau ar Gorffennaf 23 a bydd ar gael i bobl ei ddefnyddio rhwng 9am a 2.45pm.

Bydd y peilot yn gwasanaethu cymdeithasau Betws Gwerfil Goch, Bontuchel, Clawddnewydd, Clocaenog, Cyffylliog, Derwen, Llanelidan, Melin y Wig a Rhyd y Meudwy.

Ni fydd yn dadleoli’r bysiau presennol ond bydd yn rhedeg ar ddyddiau'r wythnos pan nad yw'r gwasanaeth bws arferol yn rhedeg.

Gall trigolion y pentref ddefnyddio’r gwasanaeth er mwyn cyrraedd eu tref marchnad leol, neu fel cysylltiad ar gyfer gwasanaeth bws sy'n teithio ymhellach.

Bydd Fflecsi yn cysylltu yng Nghorwen am 9.30am gyda bysiau yn mynd i Ruthun, Llangollen a Wrecsam, a bydd yn cynnig cysylltiad i’r rheiny sy’n dychwelyd ar fws.

Bydd yn cael ei redeg ar y cyd gyda Phartneriaeth Cymunedol De Sir Ddinbych (SDCP), elusen gofrestredig sy’n anelu i wella bywydau trigolion yr ardal. Gall trigolion sy’n dymuno defnyddio’r gwasanaethau hyn gysylltu â SDCP ar 01490 266004.

Bydd rhaid i'r holl deithwyr dalu ffi i'r gyrrwr o £2 bob siwrnai dychwelyd neu sengl.

Mae hyn yn helpu i dalu’r costau.

Mae manylion pellach ar gael ar www.sirddinbych.gov.uk/teithio