MAE cydlynydd strategaeth datblygu Hiraethog wedi bod mewn cyswllt â sawl cymuned yn ardal Hiraethog yn ddiweddar, ac mae wedi dod i’r amlwg bod materion yswiriant ac iechyd a diogelwch wrth drefnu sioeau gwledig yn faterion dyrys.

O ganlyniad, mae Eirian Pierce Jones yn awyddus i gynnal cyfarfod â’r rhai sy’n gweithio'n galed i gynnal y sioeau hyn yn Hiraethog er mwyn darganfod beth yw’r heriau a cheisio am atebion posib.

Mi fyddai Eirian yn falch iawn o glywed gan drefnwyr ar 01492 642357 neu drwy e-bost at eirian@miconwy.org

Anelir at gyfarfod mor fuan â phosib er mwyn dechrau datblygu cynllun a thargedu grantiau ble’n bosib.

Mi fydd hefyd yn mynychu salw sioe dros yr wythnosau nesaf ac yn gobeithio cwrdd â rhai o’r trefnwyr bryd hynny.