PROFIAD newydd sy'n wynebu'r cyflwynydd Aeron Pughe yn y Sioe Frenhinol eleni, wrth iddo fentro o'r sied gneifio i grwydro'r maes.

Yn rhan o griw sylwebu Y Sioe 2018, ar S4C, bydd Aeron yn canolbwyntio ar yr ardaloedd ffwr a phlu, y geifr a'r moch.

Bydd hefyd yn manteisio ar y cyfle i ymweld ag amryw o fannau gwahanol ar faes y Sioe, gan gynnwys yr ardal goedwigaeth, y peiriannau a chornel gyfarwydd iawn iddo, y Ffermwyr Ifanc.

"Ro'n i'n rhan o Glwb Ffermwyr Ifanc Bro Ddyfi pan oeddwn i'n ddigon ifanc i fod yn aelod, ac wedi helpu ar ôl hynny," meddai.

"Y rheswm dwi'n cyflwyno heddiw ydi oherwydd y Ffermwyr Ifanc.

"Mae'n neis iawn 'mod i'n gallu mynd yn ôl yno i hyrwyddo a chyfweld â phobl o'r mudiad."

Mi fydd Aeron yn ymuno â sawl wyneb cyfarwydd ar dîm sylwebu'r Sioe eleni, gyda Nia Roberts yn angori'r cyfan bob diwrnod o 9yb.

Dai Jones, Llanilar, fydd yn cadw llygad ar y gwartheg, Meinir Howells ar y defaid ac yn sylwebu o’r sied gneifio fydd Alun Elidyr.

Heledd Cynwal a David Oliver fydd yn sylwebu o'r Prif Gylch, gyda ffrwd fyw ar-lein ar gyfer holl gystadlaethau'r cylch.

Bydd rhaglenni uchafbwyntiau gyda'r nos wedi'u cyflwyno gan Ifan Jones Evans.

Bydd Ifan hefyd yn mwynhau cynnwrf y maes ar y nos Sul cyn y sioe mewn rhaglen fydd yn edrych ymlaen at yr wythnos ac yn darlledu o Foliant y Maes.