MAE gwaith adnewyddu sylweddol i bwll nofio Canolfan Hamdden Rhuthun ar fin dechrau yn yr haf.

Mae buddsoddiad sylweddol wedi bod yn y ganolfan hamdden yn barod yn yr ardaloedd ffitrwydd a newid.

Bydd y pwll nofio yn cau ar Gorffennaf 22 am gyfnod o oddeutu 24 wythnos.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ochr y pwll a’r ystafelloedd newid yn cael eu hadnewyddu.

Ar gyfer plant wedi cofrestru ar raglen nofio Sir Ddinbych, bydd y sir yn cysylltu â chwsmeriaid yn gofyn os ydynt yn fodlon symud i safle arall ar gyfer y cyfnod cau (yn dibynnu ar argaeledd).

Ar gyfer y rheiny sy’n dymuno defnyddio cyfleusterau nofio yn agored i'r cyhoedd, mae sesiynau dyddiol ar gael yn Ninbych, Corwen, Y Rhyl a Nova Prestatyn.

Mae amserlenni ar gyfer y canolfannau hyn ar gael ar www.hamddensirddinbych.co.uk

Mae’r cyngor hefyd yn gweithio gyda chlybiau sydd yn defnyddio'r pwll nofio i ddod o hyd i ddarpariaeth arall.

Bydd y cyngor hefyd yn adolygu’r sefyllfa ar gyfer gwersi nofio ysgol pan fydd yr amserlen yn cael ei chadarnhau ym mis Medi.

Yn ystod yr adnewyddu, bydd yr ystafell ffitrwydd, stiwdio, neuadd chwaraeon a’r cae chwarae pob tywydd ar gael i’w defnyddio fel yr arfer.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau pellach ynglyn â gwersi nofio neu unrhyw agwedd arall o'r gwaith adnewyddu, siaradwch ag aelod o staff yn y ganolfan.