BYDD gig arbennig i ddathlu dechrau gwyliau’r haf yn cael ei chynnal nos Wener yma yn Neuadd Bentref Llanuwchllyn, gyda band lleol Y Cledrau.

Mae’r gig yn arbennig am reswm arall hefyd - mae wedi ei threfnu yn arbennig ar gyfer plant blynyddoedd 4, 5, 6 a 7 gan blentyn blwyddyn 4.

Mae Cadi Elin Williams, 9, wedi bod mewn dipyn o gigs yn barod, hefo’i brawd Efan, 11, a’u cyfneitherod a chefndryd.

Mi welson nhw Y Candelas yn Eisteddfod Y Fenni, ac Yws Gwynedd ym Mhafiliwn Eisteddfod Mon ac yn Neuadd Buddug Y Bala.

Y ddiweddaraf oedd gig Y Cledrau a Candelas yn Neuadd Buddug fis diwethaf.

Mae wedi dechrau cyfri Twitter a Facebook yn enw Miwsig Cymraeg ac yn gobeithio lansio’r wefan yn fuan.

Y syniad ydi creu lle i blant drafod miwsig Cymraeg.

“Roedden ni eisiau trefnu rhywbeth i ddathlu dechrau gwyliau’r haf," meddai Cadi, sy’n ddisgybl yn Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn.

“Mi fase’n wych tase plant o ysgolion yr ardal yn dod draw - mi fydd yna gemau, gwobrau a phencampwriaeth flossio!

"A pherfformiad gan Y Cledrau, wrth gwrs!”

Bydd y gig yn dechrau am 7.30yh nos Wener yma, Gorffennaf 20.

Mae tocynnau ar werth yn Awen Meirion, Garej Llanuwchllyn, trwy decstio 07834 845512 neu ebostio miwsigcymraeg@gmail.com