AR nos Iau, Awst 9 (5.30yp) ym Mhabell y Cymdeithasau (Y Senedd), Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd bydd trafodaeth banel yn rhannu atgofion a straeon am hafau a dreuliwyd yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, boed hynny fel staff, swog neu breswyliwr.

Rydym hefyd yn estyn gwahoddiad cynnes i holl ddarllenwyr y papur i ymuno yn y sgwrs drwy rannu eu straeon.

Croeso i bawb ddod a lluniau ac atgofion a bydd posib i ni gofnodi’r rhain fel rhan o broses archifo’r Urdd.

Yn cadeirio fydd Angharad Mair gyda’r panel yn cynnwys Steffan Jenkins (cyn-gyfarwyddwr y gwersyll), Ian Gwyn-Hughes a nifer o gyn-wersyllwyr, swogs, staff ac enwogion eraill.

Os hoffech gadarnhau eich presenoldeb gellir gwneud hynny drwy ebostio llangrannog@urdd.org

Fel y gwyddoch efallai, yn 2022 bydd yr Urdd yn dathlu ein canmlwyddiant felly dyma gyfle i edrych yn ôl ac edrych ymlaen.

LOWRI JONES

Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Llangrannog