MAE llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn galw ar blant i gymryd yr her o ddarllen chwe llyfr yr haf hwn fel rhan o Dyfeiswyr Direidi, Sialens Ddarllen yr Haf 2018.

Mae’r thema wedi ei ysbrydoli gan y comic poblogaidd y Beano, sy’n dathlu ei benblwydd yn 80 eleni.

Bydd plant yn chwilota mewn map o Beanotown i ddod o hyd i gist trysor cudd sy’n llawn o driciau ac i ddod yn ddyfeiswyr direidi o fri!

Wrth i’r plant ddarllen llyfrau llyfrgell ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf, byddant yn derbyn sticeri arbennig, rhai gyda arogleuon od.

Wrth osod y sticeri ar y map, bydd darllenwyr ifanc yn ymuno hefo Denis, Dannedd a’u ffrindiau i ddatrys cliwiau a darganfod y trysor, ac yn cael llawer o hwyl ac anturiaethau ar y daith.

I gymryd rhan yn Dyfeiswyr Direidi, y cwbl sydd angen i blant wneud ydi ymuno yn eu llyfrgell leol am ddim, a byddant yn derbyn map casglwr lliwgar o Beanotown i gofnodi eu siwrne yn Sialens Ddarllen yr Haf.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn hollol ddwyieithog yng Nghymru trwy gefnogaeth Llywodraeth Cymru trwy Gyngor Llyfrau Cymru.