MAE sêr drwy Gymru gyfan wedi bod yn agor eu drysau i Nia Parry dros yr wythnosau diwethaf wrth iddi gael cip y tu mewn i'w pedair wal yn y gyfres Adre ar S4C.

Yr wythnos nesaf (nos Fercher, Awst 1), bydd Nia’n ymweld â chartref un o enwogion mwyaf Cymru, y gantores, actores a chyflwynydd aml-dalentog Caryl Parry Jones, sy’n wreiddiol o Ffynnongroyw.

Mae Caryl wedi diddanu cynulleidfaoedd ledled Cymru dros y pedwar degawd diwethaf, yn canu a pherfformio ar lwyfan, yn cyflwyno ar BBC Radio Cymru, yn ysgrifennu sgriptiau ac yn ymddangos ar S4C mewn cynyrchiadau megis Ibiza Ibiza, Hapus Dyrfa, Anita a Caryl a'r Lleill i enwi dim ond rhai.

Cantores, awdures, cyfansoddwraig, sgriptwraig, bardd a DJ radio - oes unrhyw beth sydd y tu hwnt i allu Caryl?

"Dwi’n methu dawnsio o gwbl," meddai Caryl wrth sgwrsio â Nia.

"Dwy droed chwith sydd gen i, dwi'n ofnadwy... Dwi wedi gwneud rhaglenni gyda choreograffwyr sy'n dweud 'Mae pawb yn gallu dawnsio!'

"Ond, o fewn pum munud, maen nhw'n sylweddoli fy mod i’n methu dawnsio o gwbl."

Wrth sôn am yr annibendod rhwng ei phedair wal, meddai Caryl: "Mae'n dy neis, ond 'da ni'n byw ynddo fo, felly mae llanast fan hyn a fan draw.

"Ond 'sdim isie i dy edrych fel 'operating theatre' nag oes?!"

Adre: Caryl Parry Jones

Nos Fercher, Awst 1 (8.25pm) ar S4C.