MAE cynllun peilot i ailgylchu gwisg ysgol wedi bod mor llwyddiannus fel ei fod yn cael ei ehangu.

Mae'r prosiect, sydd wedi gweithredu yn Ninbych yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, wedi profi mor llwyddiannus fel bod y cynllun, a drefnir gan Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ac sydd wedi'i gefnogi gan Gyngor Sir Ddinbych, bellach yn cael ei chyflwyno i'r Rhyl a Rhuthun.

Mae'r cynllun ailgylchu yn caniatáu i rieni gael gwisgoedd ysgol fforddiadwy o ansawdd uchel.

Bydd siopau dros dro ymlaen yn:

Y Farchnad, Neuadd y Dref, Dinbych: Gorffennaf 30-Awst 3 (10am-2pm).

15 Stryd y Ffynnon, Rhuthun: Awst 6-10 (12-2pm).

Rhai o’r ysgolion sy’n cymryd rhan yn y fenter eleni yw: Ysgol Frongoch, Ysgol Twm o'r Nant, Ysgol y Parc, Ysgol Trefnant, Ysgol Henllan, Ysgol Pendref, Ysgol Borthyn, Ysgol Pen Barras, Ysgol Stryd y Rhos, Ysgol Uwchradd Dinbych, Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol Brynhyfryd.

Meddai Lesley Powell, prif weithredwr Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych: "Mae'r cynllun hwn yn dwyn ynghyd rhieni, plant, ysgolion, staff a gwirfoddolwyr Cyngor ar Bopeth, cynghorau tref a sir a busnesau lleol.

"Byddwn yn cynnig 'archwiliad iechyd ariannol' i deuluoedd os yw pobl am wneud yn siwr eu bod yn derbyn eu holl fudd-daliadau a'u hawliau credyd.

"Hoffwn ddiolch i Gyngor Tref Dinbych a Chlwb Rotari Dinbych am ddarparu arian ar gyfer y cynllun, a chwmni Lock Stock am storio a chludo'r gwisgoedd."