YN 2014, derbyniodd Eglwys Sant Beuno, Gwyddelwern, grant gan y Loteri Genedlaethol i drwsio’r twr, ac i wneud yr adeilad a’r tir yn ddiogel. Bellach, gorffennwyd y gwaith, ac agorir yr Eglwys i’r cyhoedd yn rheolaidd.

I ddathlu’r eglwys ar ei newydd wedd, a’i statws fel eglwys i bererinion, cynhelir diwrnod agored, er mwyn i’r cyhoedd ddod draw i’w chroesawu’n ôl i galon y pentref ddydd Sadwrn, Awst 11, rhwng 1 a 4pm.

Bydd paneli hanes a hen luniau o’r pentref i’w gweld a chewch astudio cofrestri teuluol a chael cyngor ar hel achau.

Bydd lluniaeth hefyd ar gael.