MAE'R Urdd yn lansio ymgyrch newydd i sicrhau bod rhai o blant a phobl ifanc mwyaf difreintiedig Cymru yn medru mynychu Gwersyll Haf yn 2019.

Fel rhan o gynllun 'Cyfle i bawb - Cronfa Gwersyll Haf yr Urdd’, mae'r mudiad yn chwilio am unigolion i noddi gwyliau i blant yn 2019.

Bydd y nawdd o £160 yn ariannu lle cyflawn i blentyn ar gwrs 5-diwrnod yn unai Gwersyll Llangrannog yng Ngheredigion, Gwersyll Glan-llyn ger y Bala neu Wersyll Caerdydd.

Nod parhaus yr Urdd yw bod yn fudiad cynhwysol i holl blant Cymru a bydd y gronfa yma yn gam i wireddu'r nod hwnnw. Gan groesawu’r gronfa dywed Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd dros Addysg: “Mae gan nifer ohonom atgofion mor hapus o wyliau haf boed hynny yng Nglan-llyn, Llangrannog neu ganolfannau eraill.

"Yn aml, dyma brofiad cyntaf plentyn o annibyniaeth, o gymryd cyfrifoldeb ac i gwrdd a ffrindiau newydd a chodi hyder.”

Bydd y gronfa yn cael ei lansio yn swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr wythnos hon, gyda'r gronfa yn agor yn 2019 er mwyn i ysgolion neu rieni wneud cais am le ar ran plentyn.

Ers eu sefydlu yn 1930au, mae Gwersylloedd yr Urdd wedi cynnig gynnig gwyliau llawn hwyl a chyfle i wneud cyfeillion newydd i blant o bob cwr o Gymru.

Gyda ystadegau’n dangos bod 29 per cent o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, cred yr Urdd fod hi'n bwysig cynnig cyfle i bawb gael manteisio ar brofiadau ei gwersylloedd.

Mae'r gronfa eisoes wedi derbyn cefnogaeth y cwmni cyfryngau, Tinopolis, fel noddwr corfforaethol.

Dywedodd Angharad Mair, cyfarwyddwr gweithredol y cwmni: “Fel cwmni sydd wedi ei leoli yn Llanelli, un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi’r cynllun gwych yma.”

Dywed Sian Lewis, prif weithredwr yr Urdd: “Mae’r Urdd yn cynnig ystod eang o weithgareddau a gwasanaethau gwych ar gyfer plant a phobl ifanc ac mae mynychu Gwersyll Haf yn un o’r profiadau mwyaf unigryw i’r Urdd.

"Dyma pan rydym wedi bod yn chwilio am ddulliau arloesol i sicrhau nad yw sefyllfa ariannol teulu yn golygu bod rhaid i blentyn golli cyfle.

"Rydw i’n siwr bod gan nifer o gyn-aelodau'r Urdd atgofion melys am eu hafau yn y Gwersyll felly mae hyn yn gyfle gwych i sicrhau bod plant heddiw yn cael yr un profiadau.”