BYDD Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint yn dod ynghyd eto eleni yn y sioe sir flynyddol, a’r ffocws fydd hyrwyddo cyfleoedd iechyd a lles i breswylwyr.

Bydd y babell o’r enw ‘Gweithio Gyda’n Gilydd’ yn Sioe Dinbych a Fflint yn cynnwys arddangosfeydd gyda gwybodaeth a fydd yn hyrwyddo iechyd a lles.

Bydd y cynghorau’n hyrwyddo’r cefnogaeth sydd ar gael trwy wefan Dewis - www.dewis.co.uk - a sefydlwyd i helpu pobl sydd â phroblemau a allai effeithio ar eu bywydau, gan gynnwys gofal plant, rheoli arian a bod yn fwy cymdeithasol.

Bydd staff o Aura Leisure yn Sir y Fflint a Gwasanaeth Hamdden Sir Ddinbych wrth law i siarad am y datblygiadau hamdden diweddaraf yn y ddwy sir a gall pobl roi cynnig ar beiriant rhwyfo a chael gwiriad iechyd cyffredinol - mesur pwysedd gwaed a braster y corff.

Bydd timau cefn gwlad yn trefnu gweithgareddau i hyrwyddo ffyniant a lles yr arfordir a chefn gwlad.

Cynhelir Sioe Dinbych a Fflint yn y Y Green, ger Dinbych, ddydd Iau, Awst 16.

Mwy am y sioe ar eu gwefan www.denbighandflintshow.com