AR ddechrau Sioe Dinbych a Fflint, yr un olaf cyn i'r DU adael yr UE, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Lesley Griffiths AC am glywed barn cymaint o bobl â phosibl am ddyfodol cymorth i ffermwyr yng Nghymru.

Yn sgil cyhoeddi ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei rhaglen Rheoli Tir newydd ddechrau mis Gorffennaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno sbarduno sgwrs er mwyn llywio dull penodol ar gyfer Cymru.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dod i’r sioe ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau a chyfarfodydd er mwyn clywed barn ffermwyr, undebau a phartneriaid am y cynigion.

Bydd y rhaglen newydd yn cynnwys dau gynllun mawr hyblyg – y Cynllun Cadernid Economaidd a’r Cynllun Nwyddau Cyhoeddus.

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cynnal sesiynau galw heibio yn y stondin, gan roi cyfle i ffermwyr a'r cyhoedd glywed mwy am yr ymgynghoriad a mynegi eu barn.

Dywedodd Lesley Griffiths: "Sioe Dinbych a Fflint eleni fydd yr olaf cyn inni adael yr UE mewn saith mis.

"Yn y sioe, hoffwn siarad â chymaint â phosibl o bobl am yr ymgynghoriad a lansiwyd fis diwethaf ynghylch ein cynigion i gefnogi ffermwyr a rheolwyr tir ar ôl Brexit.

"Golyga Brexit y bydd yn rhaid i ni wneud pethau mewn ffordd wahanol.

"Yn syml, nid yw cadw'r sefyllfa bresennol yn opsiwn. Bydd taliadau sylfaenol yn dod i ben yng Nghymru.

"Yn eu lle, bydd gennym systemau cymorth Cymreig a all sicrhau manteision eang.

"Nod ein cynigion yw cadw ffermwyr yn ffermio ar eu tir a gweld y sector yn ffynnu mewn byd ar ôl Brexit."