MAE Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Eluned Morgan AC wedi cyhoeddi fod £51 miliwn wedi’i neilltuo o’r Grant Cyfalaf Cyfrwng Gymraeg a’r Grant Cyfalaf ar gyfer y Cynnig Gofal Plant i gefnogi’r twf mewn addysg cyfrwng Gymraeg.

Dywedodd Eluned Morgan: “Bydd y prosiectau hyn yn cyfrannu’n sylweddol at ddarparu addysg cyfrwng Gymraeg.

"Mae cael amgylchedd cyfforddus, modern, addas i’r diben i ddysgu yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael yr addysg orau bosibl.

"Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn golygu y bydd hyd yn oed rhagor o’n myfyrwyr yn gallu manteisio ar y cyfleusterau gwych i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae ein her o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn her sylweddol ac addysg yw’r allwedd i’n llwyddiant.

"Drwy gyfuno’r cyllid o dan y Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg a Grant Cyfalaf y Cynnig Gofal Plant, rydyn ni wedi gallu sicrhau’r manteision mwyaf o’n buddsoddiadau o dan y ddwy raglen er mwyn annog twf a darpariaeth mewn dau faes pwysig.”

Dywedodd Huw Irranca-Davies AC, y Gweinidog Plant: “Mae darparu cyfleoedd cynnar i ddysgu Cymraeg yn hanfodol os ydyn ni am gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg, ac rwy'n falch y bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn mynd tuag at gynyddu'r nifer o leoedd gofal plant sydd ar gael ar gyfer dysgwyr cyfrwng Cymraeg."

Ym mhlith y prosiectau llwyddiannus mae cynllun ar safle Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy i greu canolfan iaith, cyfleuster ar gyfer datblygu adnoddau'r Gymraeg a lleoliad bosibl ar gyfer partneriaid sy’n hyrwyddo’r Gymraeg, yn ogystal â chynnydd mewn lle ar gyfer Ysgol Glan Clwyd.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn canolfan Gymraeg yn y sir fel hwb mawr i'r iaith Gymraeg.

Dywedodd y Cyng Huw Hilditch-Roberts, aelod arweiniol y cabinet dros blant, pobl ifanc a'r iaith Gymraeg: "Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Sir Ddinbych ac mae ei angen i helpu i ddiwallu'r cynnydd yn y galw am gyfrwng Cymraeg.

"Byddwn yn awr yn gweithio gyda phartneriaid i wneud y freuddwyd hon yn realiti."

Hefyd yn y gogledd ddwyrain, bydd buddsoddiad mewn adeiladau ar safle Ysgol Llanfair Talhaiarn a safle Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug.