GADEWCH EICH SYLWADAU ISOD.Trwy gydweithio â Bwrdd yr Iaith Gymraeg, roedd staff a gwirfoddolwyr yn brysur yn ymarfer eu cyfarchion Cymraeg.
Mae Mervyn Cousins, cyfarwyddwr gweithredol newydd Eisteddfod Llangollen
, wedi bod yn brysur ei hun yn gwrando ar dapiau dysgu Cymraeg, ac mae'n paratoi i gofrestru ar gyfer cwrs dysgu Cymraeg ym mis Medi.
Dywedodd cyn yr Eisteddfod: "Er bod rhai aelodau o'r tîm yn siaradwyr Cymraeg rhugl (18 y cant), rydym wedi cynnig hyfforddi staff a gwirfoddolwyr sy'n ymwneud â'r cyhoedd yn unionyrchol, i gyfarch cwsmeriaid a chynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg i'r rheiny fyddai'n well ganddynt drafod busnes â ni yn y Gymraeg.
"Rydym wedi safoni ein defnydd o'r iaith Gymraeg yn ein gwaith o ddydd-i-ddydd, ac wedi rhoi polisi ffurfiol at ei gilydd fel rhan o'n cydweithio â Bwrdd yr Iaith Gymraeg."
Fel rhan o'r polisi hwnnw, mae gwaith paratoi wedi ei wneud yn ystod y misoedd diwethaf i safoni'r arwyddion oedd i'w gweld ar faes yr Eisteddfod, o fewn cyllid penodol, ac i annog stondinwyr i ddilyn yr un drefn.
Mae'r tîm hefyd wedi bod yn brysur yn uwchraddio eu gwefan gyfredol uniaith Saesneg i fod yn wefan ddwyieithog, gan gynnig y cyfle i siaradwyr Cymraeg i chwilio am wybodaeth am yr Eisteddfod ar y we fyd eang trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r Eisteddfod wedi dilyn canllawiau safon meddalwedd dwyieithog Bwrdd yr Iaith i ddatblygu'r wefan.
Yn ôl Mervyn Cousins: "Mae'r gwaith hwn yn fuddsoddiad i'r Eisteddfod Ryngwladol, buddsoddiad cyfredol sy'n sicr o ddatblygu.
"Oherwydd cyfyngiad ar gyllid, ni allwn wella ein gwasanaeth Cymraeg dros nos, ond byddem yn parhau i weithio gyda'n staff, gwirfoddolwyr, cystadleuwyr, cwsmeriaid, partneriaid, a chyrff eraill i wella ein gwasanaeth Cymraeg.
"Gan ein bod yn ddigwyddiad rhyngwladol, rydym yn cyfathrebu trwy amryw o ieithoedd, a bydd ffurfioli'n defnydd o'n hiaith frodorol yn bendant yn cynnig buddiannau i gystadleuwyr ac ymwelwyr yr Eisteddfod."
Yn ôl Ifan Evans, cyfarwyddwr sector breifat a busnes Bwrdd yr Iaith Gymraeg: "Dethlir Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ar draws y byd oherwydd ei haml-ddiwylliannau a'i hamrywiaeth iaith.
"Dros y misoedd diwethaf rydym wedi cydweithio â threfnwyr yr Eisteddfod ar eu polisi iaith Gymraeg newydd, ac rydym yn falch o weld y bydd yr Eisteddfod yn llawer mwy dwyieithog eleni.
"Bydd hyn yn galluogi'r Eisteddfod i gynnig profiadau cofiadwy, nodedig ac unigryw Gymreig i'w chystadleuwyr a'i hymwelwyr.
"Rydym yn llongyfarch Mr Cousins a'i dîm am eu brwdfrydedd a'u cefnogaeth i'r iaith Gymraeg, ac rydym yn sicr y gwnaiff hyn arwain yr Eisteddfod i lwyddiannau pellach."
GADEWCH EICH SYLWADAU ISOD.
The full article contains 441 words and appears in n/a newspaper.