Cyngor yn dymuno'n dda i brifysgol diweddara Cymru
Published Date:
31 July 2008
MAE cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych wedi cynnig ei longyfarchion a'i ddymuniadau gorau i brifysgol fwyaf newydd Cymru.
Cafodd Sefydliad Gogledd Ddwyrain Cymru yn Wrecsam ei henwi'n swyddogol brifysgol yn dilyn derbyn statws prifysgol drwy gydsyniad brenhinol y Frenhines ac fe'i henwir yn Brifysgol Glyndwr ar ôl yr arwr gorchfygol Cymreig a arweiniodd wrthryfel yn y bymthegfed ganrif.
Meddai'r Cyngh Raymond Bartley: "Rydym yn hynod falch fod NEWI wedi cyflawni statws prifysgol a chydnabyddiaeth swyddogol fel canolfan rhagoriaeth ar gyfer addysg uwch yn rhanbarth Gogledd Ddwyrain Cymru.
Mae nifer o'r myfyrwyr sydd ar gyrsiau yno'n dod o Sir Ddinbych.
"Mae'r cyngor yn falchach byth o'r enw a ddewiswyd, o ystyried cysylltiadau hanesyddol cryf Owain Glyndwr â Chorwen, Rhuthun a Sir Ddinbych gyfan.
"Mae hwn yn ddiwrnod pwysig yn hanes NEWI ac rydym yn hynod falch o gynnig ein dymuniadau gorau i'r dyfodol i bawb ym Mhrifysgol Glyndwr."
The full article contains 158 words and appears in n/a newspaper.
-
Last Updated:
01 August 2008 8:39 AM
-
Source:
n/a
-
Location:
Denbighshire