Disgyblion Ysgol Dinas Bran yn dysgu am ddiogelwch
DYSGODD disgyblion blwyddyn 12 ac 13 Ysgol Dinas Bran, Llangollen ynglyn â gwir sefyllfa bod yn rhan o ddamwain ffordd yn ystod cyflwyniad hynod effeithiol gan ddiffoddwyr tân o orsaf dân Wrecsam.
Roedd y cyflwyniad yn cynnwys cyfres o hysbysebion arbenigol yn cynnwys dioddefwyr go iawn a'u teuluoedd, gwneud defnydd o luniau o ddamweiniau ar y ffyrdd yr oedd diffoddwyr tân wedi ymwneud â hwy, a char maint llawn a theithwyr dymi oedd wedi bod yn rhan o wrthdrawiad penben.
Cafodd y disgyblion weld y 'Beictân' hefyd, a ddefnyddir er mwyn dysgu gyrwyr beiciau modur ynglyn â phwysigrwydd beicio'n ddiogel.
Andy William, rheolwr criw, Gwylfa Wen, Wrecsam oedd yn arwain y cyflwyniad. Meddai: "Mae'r grwp rhwng 17-21 oed yn darged allweddol gennym."
*Y stori llawn yn Free Press yr wythnos hon, neu trwy tanysgrifo i'r fersiwn electronig.
The full article contains 151 words and appears in n/a newspaper.
-
Last Updated:
14 May 2008 3:22 PM
-
Source:
n/a
-
Location:
Denbighshire