Gweithdy i Ffermwyr Clwyd yn Ninbych
ROEDD Melin Brwcws, Dinbych yn lleoliad priodol iawn i'r diwrnod fu'n canolbwyntio ar bwysigrwydd afonydd glân, iach a'r rhan allweddol mae ffermwyr yn ei chwarae i'w cadw felly. Ariannwyd y gweithdy gan Asiantaeth Amgylchedd Cymru.
Trefnwyd y gweithdy fel rhan o Fenter Dalgylch Afon newydd yr asiantaeth ac fe gafodd ei redeg gan Grwp Ymgynghorol Ffermio a Bywyd Gwyllt Cymru (FWAG Cymru) .
Esboniodd Nichola Taylor, cydlynydd dalgylch Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, mai amcanion y fenter oedd gwella ansawdd y dwr yn nentydd ac afonydd yr ardal.
Bydd y fenter yn darparu cymorth a chyngor am ddim i ffermwyr ynglyn â'r camau y gallant eu dilyn i wneud eu ffermydd yn fwy effeithlon, ond hefyd i leihau llygredd gwasgaredig ddaw o'u ffermydd.
Daw llygredd gwasgaredig o nifer o ffynonellau bychain ar wahân. Ar ben eu hunain nid ydynt yn achosi problemau, ond gyda'i gilydd gallant gael effaith ddifrifol ar ecoleg afonydd Cymru.
Mae'r amcanion hyn yn cynnwys cadw llygryddion mewn cyrsiau dwr i leiafswm drwy weithio gyda ffermwyr yn yr ardal i leihau lefelau ffosffad, nitradau, gwaddod, dangosydd bacteria ymgarthol a dip defaid rhag mynd i'r dwr.
Esboniodd Kat Marshall, hefyd o'r asiantaeth, y byddai grantiau ar gael cyn bo hir i ffermwyr oedd yn barod i ymgymryd â'r gwaith o adfer nodweddion naturiol afonydd a thorlannau a lleihau effaith da byw arnynt. Gwahoddwyd ffermwyr i gysylltu â'r asiantaeth, yr Ymddiriedolaeth Afonydd neu FWAG Cymru i drafod hyn ymhellach a chyflwyno cais.
Roedd ymgynghorwyr Cadwraeth Fferm FWAG Cymru wedi ymweld â 33 o ffermydd gyda thir yn ffinio â neu ger afon Hesbin i drafod yr amryfal agweddau sy'n effeithio ar ansawdd dwr gyda ffermwyr gan gynnig cyngor a chymorth ar yr arferion gorau a rhoi sylw penodol i faterion trawsgydymffurfio.
Esboniodd Martin Fowell, cadeirydd Ymddiriedolaeth Afonydd Clwyd a Chonwy, a'r ysgrifennydd Brian Hodgson am bwysigrwydd dwr glân i fywyd trychfilod afonydd. Yn ei dro, mae poblogaeth o bysgod iach yn dibynnu ar y trychfilod hyn fel ffynhonnell fwyd.
Rhoddodd Kevin Jones o Lywodraeth Cynulliad Cymru gyflwyniad ar y cynllun peilot ffermio sy'n gydnaws â dalgylch afon sydd wedi bod yn rhedeg am tua dwy flynedd mewn dau ardal - un ger y Bala a'r llall yn Sir Benfro. Mae'r ffermwyr yn yr ardaloedd hyn wedi derbyn cynnig grantiau i waith fel gorchuddio mannau cadw tail, profi pridd, gwahanu dwr glân a dwr budr ar fuarth ffermydd, ac adeiladu pontydd dros gyrsiau dwr. Bwriedir ymestyn y prosiect i wyth ardal arall yng Nghymru, ond nid ydym yn gwybod pa ardaloedd eto.
Mae gan Giles Rowland o Bachymbyd Fawr gytundeb Tir Cynnal. Esboniodd sut roedd y cynllun amaeth-amgylcheddol yma'n gweithio mor dda ar ei fferm. Credai mai'r dasg anoddaf oedd creu Cynllun Rheolaeth Adnoddau sy'n ofyniad o'r cynllun. Er hynny, roedd yn gallu gofyn am gymorth Ymgynghorydd Cadwraeth Fferm FWAG yng Ngogledd Cymru, Richard Roberts am gymorth arbenigol ar hyn ac am gost resymol.
Aeth Richard Roberts ymlaen i esbonio sut y gall ffermwyr wneud cais i ymuno â'r cynllun, drwy gwblhau'r rhannau perthnasol o'u ffurflenni Taliad Sengl (IACS) sydd i'w dychwelyd i swyddfeydd y Cynulliad erbyn Mai 15.
Dywedodd Glenda Thomas, cyfarwyddwr FWAG Cymru: "Cawsom ddiwrnod ardderchog a chafwyd llawer o gwestiynau i'r siaradwyr gyda thrafodaeth fywiog iawn. Mae hi'n dda gweld meysydd ffermio, pysgota a bywyd gwyllt yn trafod gyda'i gilydd i ddiogelu ein hafonydd - sydd wedi'r cyfan yn cynnwys sail bywyd ei hunan sef dwr."
The full article contains 584 words and appears in n/a newspaper.
-
Last Updated:
26 March 2008 2:04 PM
-
Source:
n/a
-
Location:
Denbighshire