Y gorau o ddau fyd
Twf - Cymraeg o'r Crud
Enw: Huw a Jenny Jones
Plant: Danny, 2 oed, a Grace, 5 mis oed
Cartref: Llanelwy
Dyma gyfweliad gyda Huw, Jenny a'r teulu
Pam y gwnaethoch chi benderfynu rhoi'r Gymraeg i'ch plant?
Roeddem ein dau yn teimlo y byddai cyflwyno dwy iaith iddynt yn sicrhau fod ganddynt fwy o sgiliau ac opsiynau ar gyfer y dyfodol. Addysg cyfrwng Saesneg yn unig gefais i (Jenny) gydag ychydig bach iawn o wersi Cymraeg tra yn yr ysgol gynradd. Aeth Huw i Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl ac yna ymlaen i Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Er mai Saesneg oedd iaith yr aelwyd, mae Huw yn rhugl yn y Gymraeg ac yn falch iawn o hynny. Trwy weld fod Huw yn gallu siarad Cymraeg rydym ein dau yn teimlo'n bositif iawn ac yn gobeithio y bydd Danny a Grace yn tyfu i fod yn gallu'r ddwy iaith yn rhugl hefyd. Bydd hyn yn cynnig mwy o gyfleoedd iddynt yn y dyfodol.
*Y stori llawn yn Free Press yr wythnos hon, neu trwy tanysgrifo i'r fersiwn electronig.
The full article contains 183 words and appears in n/a newspaper.
-
Last Updated:
14 May 2008 3:39 PM
-
Source:
n/a
-
Location:
Denbighshire