MIS diwethaf, mewn cyfarfod yn Ninbych, croesawyd dros 40 o bobl i gyfarfod cyntaf pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020.

Bwriad y pwyllgor gwaith yw llywio holl drefniadau’r wyl a fydd yn cael ei chynnal ar gyrion Dinbych rhwng Mai 25 a 31, 2020.

Etholwyd Dyfan Phillips yn gadeirydd y pwyllgor gwaith, gyda Heledd Owain yn is-gadeirydd, Delyth Williams yn ysgrifennydd a Gwyrfai Jones, sef cadeirydd y pwyllgor cyllid, yn drysorydd.

Dywedodd Dyfan Phillips ei fod yn anrhydedd iddo dderbyn swydd y cadeirydd.

“Rwy’n teimlo’n freintiedig bod y cyfarfod wedi fy ethol ac edrychaf ymlaen at arwain y criw hwn o wirfoddolwyr er mwyn sicrhau Eisteddfod lwyddiannus yn 2020.

"Mae gen i angerdd am ddiwylliant yr ardal a’r iaith Gymraeg, ac rwy’n edrych ymlaen yn ddiwyd i groesawu plant a phobol ifanc o bob cwr o Gymru i’r sir.”

Yn ôl Aled Siôn, cyfarwyddwr yr EisteddfodL “Rydym yn falch iawn bod y swyddogion a enwebwyd wedi derbyn y swyddi ac ein bod wedi llwyddo i ddenu dros 40 o bobl i fynychu’r cyfarfod cyntaf.

"Mae’n arwydd o’r brwdfrydedd sydd yn yr ardal a’r awydd i weithio dros yr Urdd.

"Mae amryw o bwyllgorau apêl eisoes wedi’u sefydlu ac mae’r pwyllgorau testun wrthi’n dewis y testunau niferus.”