BU aelodau Clybiau Ffermwyr Ifanc Clwyd yn cystadlu yng nghystadleuaeth cenedlaethol siarad cyhoeddus Cymraeg a Saesneg yn Llanelwedd yn ddiweddar ac fe ddaethant yn ail yn yr adran Gymraeg.

Fe enillwyd y gystadleuaeth 'Ceisio am Swydd' gan Lois Wynne, o Uwchaled, ac fe gafodd ei gwobrwyo gan Laura Elliott, cadeirydd CFfi Cymru.

Mae’r gystadleuaeth yma yn un gwych i bobol ifanc ddysgu sut i geisio am swydd yn y dyfodol.

Daeth y gystadleuaeth darllen Cymraeg yn gyntaf gyda tîm o 3 yn darllen paragraff o lyfr yr oeddynt wedi ei gael hanner awr ynghynt. Mali Ellis o Nantglyn, Owain John Jones o Llansannan a Tomos Clwyd Edwards o Nantglyn oedd y tîm ac fe enillodd Owain John am y siaradwr gorau yn y gystadleuaeth.

Mae hyn yn rhoi hyder i bobol ifanc i siarad yn gyhoeddus.

Roedd y Dim ond Munud wedi gwneud yn dda hefyd drwy ddod yn ail hefo Elin Evans, Osian Williams a Iwan Parry, o Chwitffordd, a Idris Williams, o Betws yn Rhos, yn y tîm.