ERS dechrau’r flwyddyn, mae Ysgol y Parc wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth hefo Gwasanaeth Celfyddydau Sir Ddinbych, Grwp Cynefin a Gwasanaeth Tai Sir Ddinbych i redeg sesiynau creadigol dwyieithog sy’n pontio’r cenedlaethau yn ystafell gymunedol Cysgodfa, Ffordd Rhuthun, Dinbych (tu ôl i Dolwen).

Dros y misoedd diwethaf, mae’r trigolion a phlant blwyddyn 2 wedi gweithio hefo’r artist Donna Jones a’r tiwtor drama Lowri Owen i greu a gwneud ffrindiau wrth gael hwyl!

Y tymor yma, mae’r grwp sy’n galw eu hunain yn Clwb Creu, ac yn cwrdd bob dydd Iau rhwng 1-3pm yn ystafell gymunedol Cysgodfa, yn mynd i fod yn gweithio hefo'r actores a’r awdur Rhian Cadwaladr a’r darlunydd Abbie Parry.

Os ydych chi dros 50 a hefo diddordeb mewn mynychu sesiynau, cysylltwch gydag Emily Reddy, Gwasanaeth Tai Sir Ddinbych, ar 07748 166360 am ragor o fanylion, neu ffoniwch dîm mentrau cymunedol Grwp Cynefin ar 0300 111 2122.

Mae’r prosiect yn rhad ac am ddim, ac yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych, Grwp Cynefin, Ysgol y Parc, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llenyddiaeth Cymru.