O EBRILL 1 bydd gan fyfyrwyr mewn prifysgolion a cholegau addysg bellach yng Nghymru hawliau cyfreithiol i ddefnyddio’r Gymraeg.

Mae’r union hawliau yn amrywio o sefydliad i sefydliad, ond mae llawer ohonynt yr un fath ledled Cymru.

Ymysg yr hawliau hynny mae tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg, gwasanaeth cwnsela yn Gymraeg a gohebiaeth fel llythyrau a ffurflenni yn Gymraeg.

Daw’r hawliau hyn yn sgil y ‘safonau’ sydd wedi eu gosod ar brifysgolion, colegau a sefydliadau addysg.

Maent yn awr yn ymuno â thros 100 o sefydliadau fel cynghorau sir, heddluoedd a sefydliadau cyhoeddus Cymreig eraill sydd eisoes o dan y system ‘safonau’ ac yn cael eu rheoleiddio gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Dywedodd Daniel Tiplady, pennaeth uned Gymraeg Prifysgol Metropolitan Caerdydd: “Rydym yn croesawu cyflwyno'r safonau iaith ac yn benodol yr hawliau bydd y safonau yn eu cynnig i'r myfyrwyr.

"Er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr yn cael y budd mwyaf posib o'r safonau, mae Met Caerdydd yn cydweithio â Undeb Myfyrwyr y brifysgol a swyddfa'r Comisiynydd ar yr ymgyrch i hysbysu myfyrwyr o'u hawliau a'u hannog nhw i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ymwneud â'r brifysgol.

"Rydym yn hyderus bydd y safonau’n gwella profiad y myfyriwr ac yn sicrhau cynnydd yn y defnydd a phwysigrwydd y Gymraeg ymysg myfyrwyr, staff a'r cyhoedd.”

Dywedodd Dafydd Evans, prif weithredwr Grwp Llandrillo Menai: "Fel sefydliad yn gwasanaethu ardal gyda nifer helaeth o siaradwyr Cymraeg, yr ydym yn croesawu y safonau a'r hawl cyfreithiol gan fyfyrwyr i ddefnyddio'r Gymraeg.

"Bydd y safonau yn cryfhau ac yn cynyddu y galw am y gwasanaethau yr ydym eisoes yn ei ddarparu yn y Gymraeg yng ngholegau y grwp."

Bydd ymgyrch farchnata yn cael ei chynnal gan Gomisiynydd y Gymraeg i gyd-fynd â’r hawliau newydd, fydd yn cychwyn y penwythnos hwn yn yr Eisteddfod Ryng-golegol ar gampws Llambed, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Dywedodd Mirain Llwyd, swyddog Cymraeg Undeb Myfyrwyr Cymru: “Mae’n bwysig fod myfyrwyr yn gwybod beth yw eu hawliau.

"Gobeithiwn y gwelwn hyn yn arwain at gynyddu defnydd o'r Gymraeg mewn sefydliadau ar draws Cymru.”

Ychwanegodd Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws: “Dyma’r genhedlaeth gyntaf erioed o fyfyrwyr i gael hawliau cyfreithiol i ddefnyddio’r Gymraeg, ac mae mor braf eu gweld yn dathlu’r garreg filltir bwysig yma – ym mhrofiad y myfyrwyr eu hunain ac yn hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg yn ogystal.”

Am fwy o wybodaeth am yr hawliau ac amserlen eu gosod mewn prifysgol neu goleg penodol, ewch i comisiynyddygymraeg.cymru/maegenihawl