MAE rhestr gynhwysfawr o enwau lleoedd Cymru wedi ei chyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg, sy’n cynnig sillafiad safonol ar gyfer enwau pentrefi, trefi a dinasoedd yng Nghymru.

Mae’r rhestr yn cael ei disgrifio fel ‘geiriadur’ i wirio sut i sillafu enwau lleoedd.

Mae bron i 3,000 o enwau ar y rhestr, ac mae’n ffrwyth blynyddoedd o waith ymchwil ac ymgynghori yn y maes.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws: “Rydym yn hynod o falch ein bod bellach mewn sefyllfa i gyhoeddi rhestr safonol o enwau lleoedd yng Nghymru.”

Mae’r rhestr ar gael i bobl chwilio ynddi a’i lawrlwytho o dan drwydded agored ar wefan Comisiynydd y Gymraeg: comisiynyddygymraeg.cymru/enwaulleoedd