MAE gwaith wedi dechrau ar adeilad ysgol gynradd newydd, diolch i help disgyblion.

Cynhaliwyd seremoni torri’r dywarchen yng Nghlocaenog ar gyfer adeilad newydd un safle ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn, ysgol cyfrwng Cymraeg sydd wedi’i lleoli ar ddau safle ar hyn o bryd, yng Nghlocaenog a Chyffylliog.

Mae’r prosiect yn ffurfio rhan o fuddsoddiad o fwy na £90 miliwn yn ysgolion Sir Ddinbych yn rhaglen ehangach Ysgolion yr 21ain ganrif, a ariennir gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru.

Meddai'r Cyng Huw Hilditch-Roberts, aelod arweiniol y cyngor dros addysg, plant a phobl ifanc a’r Gymraeg: “Mae dechrau ar yr ysgol newydd yn newyddion ardderchog i ddisgyblion yr ysgol ac i genedlaethau’r dyfodol sy’n byw yn ardal Clocaenog a Chyffylliog.

"Rydym yn cydnabod bod hyn wedi bod yn hir yn digwydd, ond rydym yn gwireddu ein haddewid i fwrw ymlaen â’r cynlluniau uchelgeisiol hyn.”