MAE diwrnod natur yn cael ei gynnal yn Sir Ddinbych fel rhan o Wythnos Natur Cymru.

Mae Cyngor Sir Ddinbych, a Bionet, Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru a Chyfeillion Nantclwyd y Dre yn cynnal y digwyddiad ddydd Sadwrn, Mehefin 9 rhwng 10am a 5pm, yng ngerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre, Rhuthun.

Ynghyd â phaentio wynebau am ddim, bydd y diwrnod natur, sy’n canolbwyntio ar y teulu, yn arddangos y gwaith cadwraeth gwych sy’n cael ei wneud yng Ngogledd Cymru gyda sgyrsiau a gweithgareddau drwy gydol y dydd, gan gynnwys dal gwyfynod, sgwrs am arddio bywyd gwyllt a sgwrs am ystlumod gyda’r nos.

Mae’r digwyddiad yn rhan o waith y cyngor i sicrhau bod yr amgylchedd yn ddeniadol a’i fod yn cael ei ddiogelu yn ogystal â chefnogi lles cymunedol.

Pris mynediad i’r digwyddiad yw £2 y pen, a phlant dan 5 oed am ddim.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â 01824 709822 neu treftadaeth@sirddinbych.gov.uk

Neu, ewch i www.nantclwydydre.co.uk