A HITHAU'N Wythnos Gwirfoddolwyr, mae sefydliadau yn tynnu sylw at y cyfleoedd a’r manteision sydd i’w cael trwy wirfoddoli yn y gymuned. Dydd Iau, Mehefin 7: Ffair gwirfoddoli – Canolfan Ni, Corwen.

Galwch draw i ddarganfod sut allwch chi gefnogi eich cymuned drwy gwirfoddoli, o 10yb tan 1yp.

Rhagor o wybodaeth o 01490 266004.

Dydd Gwener, Mehefin 8: Ffair gwirfoddolwyr - Canolfan Naylor Leyland, Stryd y Ffynnon, Rhuthun (12.30-3.30yp). Bydd Menter Iaith Sir Ddinbych a chynrychiolwyr o sefydliadau eraill yn y ffair ddydd Gwener.

Ewch draw i holi am gyfleoedd.