MAE trigolion Sir Ddinbych yn cael eu hatgoffa i ddweud eu dweud ar wasanaethau'r cyngor ac am fyw yn y gymuned, fel rhan o'r arolwg preswylwyr diweddaraf.

Bob dwy flynedd, mae'r cyngor yn gofyn am safbwyntiau am gymunedau fel mannau i fyw ynddynt a pha mor fodlon yw pobl gyda gwasanaethau'r cyngor yn gyffredinol.

Dywedodd y Cyng Richard Mainon, aelod arweiniol y cabinet dros seilwaith cymunedol: "Mae'r arolwg hwn yn barhad o'n Sgwrs y Sir lle rydym yn gofyn am farn pobl ar ystod eang o faterion.

"Bydd y canfyddiadau yn ein helpu i ddeall faint y mae pobl yn ei wybod amdanom ni a'n gwasanaethau; eu profiadau o gysylltu â ni a rhoi adborth ar yr hyn y credant y dylem ganolbwyntio arno dros y blynyddoedd sydd i ddod.

"Mae barn pobl yn bwysig iawn i ni – fe fyddan nhw'n ein helpu i lywio ein cyfeiriad yn y dyfodol gyda'n gwasanaethau a hoffen ni ddiolch i bobl ymlaen llaw am eu cydweithrediad."

Gellir gweld yr arolwg ar wefan y cyngor - www.sirddinbych.gov.uk

Mae copïau hefyd wedi cael eu dosbarthu i rai aelwydydd yn y sir ac mae copïau caled hefyd ar gael mewn derbynfeydd swyddfeydd y cyngor, mewn canolfannau hamdden a llyfrgelloedd.

Y dyddiad cau yw Mehefin 15.