BYDD cyfle i droedio llwyfan y sioeau cerdd mewn cyngerdd arbennig yn Rhuthun nos Wener, Mehefin 29, pan fydd Côr Rhuthun a'u gwesteion yn cyflwyno noson o ganeuon o'r sioeau.

Dewch ar daith i fyd siartwyr Pum Diwrnod o Ryddid, i hiwmor Oliver ac angerdd gwladgarol Chess a ffydd emosiynol Annie!, a llawer mwy.

Yn rhannu llwyfan hefo’r côr bydd y cerddor Daniel Lloyd, sydd wedi serenu mewn sawl sioe gerdd ar draws y wlad, gan gynnwys The Commitments, Tom Jones a Little Shop of Horrors; a Glain Rhys, sydd wedi bod yn llwyddiannus mewn cystadlaethau unawd sioe gerdd ac sy’n astudio ynn Nghaerdydd ar hyn o bryd.

Mae’r cyngerdd yn Theatr John Ambrose, Rhuthun nos Wener, Mehefin 29 am 7.30yh ac yn rhan o ddathliadau Gwyl Rhuthun.

Mae tocynnau (£10) ar gael o Siop Elfair neu gan aelodau’r côr.

Mae’r noson wedi ei threfnu ar y cyd hefo Gwenan ac Elwyn Williams er budd Ymchwil Motor Neurone.

Dewch yn llu i fwynhau noson yn y sioeau!