ROEDD dathliadau di-ri yn Llyfrgell a Siop Un Alwad Llanelwy ddydd Mercher diwethaf wrth i’r cyfleusterau agor yn swyddogol wedi prosiect adnewyddu sylweddol.

Bu i’r llyfrgell a Siop Un Alwad ail-agor ei drysau ganol Ebrill yn dilyn rhaglen o waith adeiladu i sicrhau cynaladwyedd yr adeilad am flynyddoedd i ddod.

Mae’r tu mewn hefyd wedi cael ei ddiweddaru i ddarparu gofod mwy hyblyg ac amlbwrpas ar gyfer y gymuned leol.

Mae’r gwelliannau yn cynnwys mynedfa fawr sy’n cynnig gwybodaeth i ymwelwyr, man lluniaeth cymunedol, ystafell gyfarfod ychwanegol, cyfleusterau talu hunanwasanaeth, ardal well ar gyfer cyfrifiaduron cyhoeddus, a gwell arwyddion.

Mae cwsmeriaid yn gallu cael mynediad i’r holl ystod o wasanaethau llyfrgell a siop un alwad, ac mae staff ar gael i gynnig cefnogaeth a chymorth.

Roedd y gwaith yn llwyddiannus o ganlyniad i’r cydweithio agos rhwng Cyngor Dinas Llanelwy a Chyngor Sir Ddinbych.

Agorwyd y cyfleusterau yn swyddogol gan gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cyng Peter Scott; Maer Llanelwy, y Cyng Colin Hardie a’i ddirprwy, y Cyng John Roberts.

Yn ystod yr agoriad, cafwyd perfformiadau gan Ysgol Esgob Morgan, Ysgol Babanod Llanelwy a Mali Elwy o Ysgol Glan Clwyd.