MAE gwledd o gerddoriaeth wedi ei threfnu yn Theatr John Ambrose, Rhuthun ar Chwefror 3.

Bydd y cyngerdd, a drefnir gan Canolfan Gerdd William Mathias, yn dathlu bod y ganolfan gerdd wedi cychwyn darparu gwersi cerddoriaeth yn Rhuthun fel rhan o ymdrechion yr elusen i ehangu ei darpariaeth yn y Gogledd Ddwyrain.

Mae’r ganolfan wedi bod yn darparu gwersi yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych ers sawl blwyddyn bellach ac yn falch o ehangu i Rhuthun.

Bydd y cyngerdd yn cynnwys perfformiadau gan diwtoriaid y ganolfan, cyn-fyfyrwyr a Chôr Cytgan Clwyd.

Ymhlith yr artistiaid bydd Rhys Meirion, Elinor Bennett, Ann Atkinson, Alfred Barker, Glian Llwyd, Teleri Siân, Morwen Blythin, Dylan Cernyw, a Kate Griffiths.

Dywedodd y tiwtor llais Ann Atkinson: “Rydw i wedi bod yn dysgu i Ganolfan Gerdd William Mathias ers 2012 pan gychwynnon ni ddarparu gwersi yn Theatr Twm o’r Nant. Mae’n wych i weld y ganolfan yn ehangu’r ddarpariaeth drwy gynnig gwersi yn Rhuthun.”

Bydd tri o gyn-ddisgyblion disglair Ann yn cymryd rhan yn y cyngerdd – Tesni Jones a Lisa Davies, sydd wedi mynd ymlaen i astudio’r llais yn y Royal Northern College of Music, a Steffan Davies, sydd bellach yn astudio cerddoriaeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Yn ôl un o diwtoriaid piano y ganolfan Teleri Siân, sy’n byw yn Llanfair Dyffryn Clwyd: "Rydym wedi cychwyn datblygu gwersi yn Rhuthun trwy gynnig gwersi piano, llais, theori a ffidil i blant ac oedolion, ac rydym yn bwriadu ehangu’r ddarpariaeth i gynnwys gwersi ar amrediad eang o offerynnau eraill hefyd.”

Mae’r prosiect Camau Cerdd i blant bach eisoes yn cael ei gynnal yn Ninbych mewn partneriaeth gyda Menter Iaith Sir Ddinbych a Gwasanaethau Celfyddydol Sir Ddinbych. Cynhelir grwp i blant 6 mis-3 oed am 1.45yp a grwp i blant 4-7 oed ar ôl ysgol ar ddyddiau Llun.

Mae tocynnau ar gyfer cyngerdd ‘Gwledd o Gerddoriaeth’ ar gael o Siop Elfair, Rhuthun ac o Siop Clwyd, Dinbych. Prisiau’r tocynnau ydy £7, £6 (pensiynwyr) a £3 (plant).