NEWYDD ddechrau ar ddyddiau Mercher, rhwng 1 a 2.45pm yn Neuadd Gymuned Gwyddelwern ac yn rhedeg tan Gorffennaf 18, mae prosiect celfyddydau pontio’r cenedlaethau gyda’r artist Eleri Jones.

Mae hwn yn gyfle gwych i drigolion lleol ymuno â disgyblion chwech a saith oed o Ysgol Bro Elwern am rywfaint o hwyl creadigol.

Meddai Sally Lloyd Davies: “Fel rheolwr ymgysylltu a datblygu cymunedol ar gyfer Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych ar brosiect Loteri Fawr Lle Chi neu Ni, fy rol ydi gweithio gyda'r cymunedau o fewn ardal Edeyrnion, ein partneriaid prosiect, Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych a sefydliadau partneriaeth eraill i ddatblygu mentrau newydd er budd trigolion yr ardal.

"Rydym wrth ein bodd o allu parhau â'n partneriaeth o weithio gyda gwasanaeth tai a gwasanaeth celfyddydau Sir Ddinbych ac Ysgol Bro Elwern i ddarparu'r prosiect celfyddydol pontio’r cenedlaethau hwn yn Gwyddelwern."

I ddysgu mwy am y prosiect, neu i archebu cludiant ar gyfer y gweithgaredd, cysylltwch â Sally ar 01490 266004 neu drwy e.bostio sally@sdcp.org