MAE Gwasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych yn chwilio am wirfoddolwyr ifanc i helpu gyda Sialens Ddarllen yr Haf eleni.
Y llynedd, bu 3,394 o blant Sir Ddinbych yn cymryd rhan yn y Sialens Ddarllen ac mae'r Gwasanaeth Llyfrgell yn dymuno efelychu llwyddiant ysgubol y llynedd trwy gynnwys gwirfoddolwyr.
Thema’r sialens eleni yw Dyfeiswyr Direidi.
Gwahoddir pobl ifanc rhwng 14 a 24 oed i ymuno fel gwirfoddolwyr a byddant yn elwa o brofiad gwaith gwerthfawr, y cyfle i ddatblygu hyder a sgiliau cymdeithasol, yn ogystal â chyfrannu’n gadarnhaol i'r gymuned leol.
Bydd gwirfoddolwyr yn cofrestru plant ar gyfer y sialens a'u helpu i ddod o hyd i lyfrau, helpu plant a theuluoedd i ddefnyddio gwefan y sialens a chynorthwyo gyda digwyddiadau mewn llyfrgelloedd ledled y sir.
Bydd angen i'r gwirfoddolwyr ymrwymo i o leiaf dair awr dros bedair wythnos.
Bydd angen sgiliau cyfathrebu da ac, yn ddelfrydol, parodrwydd i ymgysylltu â phlant a theuluoedd yn y Gymraeg a'r Saesneg; diddordeb mewn cefnogi a gweithio gyda phlant, ac mewn llyfrau a darllen; ac agwedd hyblyg a chyfeillgar tuag at dasgau a gyflawnir, prydlondeb a dibynadwyedd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r llyfrgell leol.
Gellir dod o hyd i fanylion ar www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules here