YN seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy y penwythnos diwethaf, cyhoeddwyd mai Myrddin ap Dafydd fydd yn gweithredu fel Archdderwydd am y cyfnod o 2019-22.

Yn fardd a chyhoeddwr o Ddyffryn Conwy, enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, yng Nghwm Rhymni yn 1990 ac yn Sir Benfro, 2002, ac mae wedi beirniadu’r gystadleuaeth droeon.

Ef oedd Bardd Plant cyntaf Cymru nol yn 2000, ac mae wedi llunio cyfrolau niferus ar gyfer pobl ifanc yn cyflwyno hanes a chwedloniaeth ein gwlad.

Ei nod fel bardd a chyhoeddwr yw ceisio gwneud i’w waith a chynnyrch ei wasg gyrraedd cynulleidfa ehangach, ac mae’n sicr o ddod â’r un egni, ymrwymiad a chreadigrwydd i rôl yr Archdderwydd dros y blynyddoedd nesaf.

Wrth drafod ei benodiad, dywedodd, “Mae nifer wedi ceisio fy mherswadio i gael fy enwebu am swydd Archdderwydd dros y blynyddoedd – pobl y mae gen i barch aruthrol atyn nhw, ond un peth sydd wedi gwneud gwahaniaeth y tro yma ydi mai criw o genhedlaeth iau na fi oedd am gynnig fy enw.

"Mi deimlais fod yr amser wedi dod imi dderbyn. Dwi’n edrych ymlaen at y gwaith yn arw rwan – mae cael bod yn rhan o’r wyl yn Nyffryn Conwy yn golygu llawer imi, wrth gwrs."

Bydd Y Prifardd Myrddin ap Dafydd yn cael ei gyflwyno yn ystod Seremoni’r Cadeirio, brynhawn Gwener, Awst 10 yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru