MAE Mynyddoedd Pawb wedi bod yn ymgyrchu i gynyddu ymwybyddiaeth o’r dreftadaeth Gymraeg yn y maes awyr agored yng Nghymru ers sawl blwyddyn bellach.

Mae ap newydd ar y gweill gan Mynyddoedd Pawb ac AHNE Bryniau Clwyd gyda chefnogaeth Mentrau Iaith leol.

Tro fydd y map realiti estynedig (AR) cyntaf o’i fath yn y Gymraeg.

Mae’r Mentrau Iaith wedi bod yn hel lleisiau dros y misoedd diwethaf er mwyn cadarnhau ynganiadau enwau lleoedd ym Mryniau Clwyd a chreu cronfa ddigidol o ynganiadau gan bobl leol.

Yn gynharach yr wythnos hon, cafodd disgyblion daearyddiaeth Ysgol Glan Clwyd y cyfle i glywed am yr ap, ac i gael mewnbwn lleisiol i mewn i’r gronfa ddigidol.

Bydd modd rhoi eich bys wrth ymyl yr enw er mwyn clywed ynganiad cywir.

Bydd cyfle hefyd i ddysgu mwy am amryw o'r enwau a'r lleoliadau, ystyron rhai o’r enwau, hanesion a chwedlau perthnasol, wrth roi eich bys ar symbol bychan arall fydd wrth ymyl yr enw.

Bydd ap Tro yn cyflwyno'r iaith Gymraeg a’i chyfoeth i bawb, a’r enwau llefydd fydd yr allwedd i hynny. Gwyliwch am yr ap yn y misoedd nesaf.